Mae teulu o Lundain wedi dod o hyd i neges mewn carden Nadolig yn galw am gymorth i weithwyr mewn carchar yn Tsieina.
Roedd Florence Widdicombe, sy’n chwech oed, yn ysgrifennu cardiau Nadolig pan ddaeth hi o hyd i nodyn yn dweud, “Rydyn ni’n garcharorion o dramor yng ngharchar Shanghai Qingpu yn Tsieina. Yn cael ein gorfodi i weithio yn erbyn ein hewyllys. Plis helpwch ni a rhowch wybod i sefydliad hawliau dynol”.
Roedd y nodyn yn gofyn i’r darllenydd gysylltu â’r newyddiadurwr Peter Humphrey, oedd wedi treulio dwy flynedd yn y carchar rhwng 2013 a 2015.
Roedd y teulu wedi prynu’r cardiau yn Tesco.
Dywed Ben Widdicombe, tad Florence, ei fod e’n credu mai “jôc” oedd y neges, ond wedi sylweddoli’n ddiweddarach y gallai fod yn “rhywbeth eitha’ peryglus”.
Cysylltodd e â’r newyddiadurwr drwy wefan LinkedIn.
“Mae’n gwneud i rywun sylweddoli’r anghyfiawnderau yn y byd a’r sefyllfaoedd anodd rydyn ni’n gwybod amdanyn nhw ac yn darllen amdanyn nhw bob dydd,” meddai wedyn.
“Ond mae rhywbeth am y neges yn cael ei hanfon adeg y Nadolig sy’n ei gwneud yn ingol iawn.”
Peter Humphrey
Cafodd Peter Humphrey ei arestio yn Tsieina tra ei fod e’n ymchwilio i dwyll corfforaethol, am ei fod e wedi corddi’r awdurdodau.
Cafodd e a’i wraig eu carcharu heb achos llys a chawson nhw ddirwy sylweddol cyn cael mynd yn rhydd am resymau meddygol.
Mae’n dweud iddo gadw cysylltiad ag ambell un yn y carchar ar ôl dod adref, ond fod mesurau diogelwch tynn yn eu lle yn cadw llygad ar lythyron oedd yn mynd i mewn ac allan o’r carchar.
Cafodd y garden dan sylw ei chynhyrchu yn Zheijiang Yunguang Printing ac mae Tesco yn dweud iddyn nhw gael “sioc” o glywed yr hanes.
Maen nhw wedi dirwyn eu gwaith ar y safle i ben.