Mae dau gyn-filwr o Gaerdydd wedi gweld ei gilydd am y tro cyntaf ers 60 o flynyddoedd ar ôl digwydd bod yn yr un parti Nadolig yn y brifddinas.

Daeth cyfnod John Stacey, 83, a John Halloran, 81, yn y fyddin i ben yn 1959 ar ôl bod yng Nghyprus.

Roedd John Stacey, sydd â chyflwr Alzheimer ers chwe blynedd, mewn parti ar gyfer cyn-filwyr sy’n dioddef o ddementia pan gerddodd John Halloran heibio ar ei ffordd adref o’r dafarn.

Dechreuodd John Halloran siarad am ei gyfnod yn y fyddin ddiwedd y 1950au ac fe ddaeth e wyneb yn wyneb â’i hen ffrind yn y fan a’r lle.

Ymateb John Halloran

“Roedden ni yn yr un cwmni, ac roedd John yn gymeriad yn y gwersyll,” meddai John Halloran am ei ffrind.

“Roedd e bob amser yn chwerthin ac yn cael jôc, ac yn chwarae triciau ar bobol gan fy nghynnwys i.

“Fe wnaethon ni siarad am ein dyddiau yn Kyrenia, am y bois y gwnaethon ni wasanaethu gyda nhw a’r rhai a gafodd eu colli.

“Es i’n emosiynol pan welais i fe.

“Mae e’n gymeriad a dydy e ddim wedi newid.”

Ymateb John Stacey

“Pan welais i fe, ro’n i’n teimlo fel mynd y tu ôl iddo fe a’i gicio fe,” meddai John Stacey am y cyfarfod.

“Wnes i ei adnabod e’n syth.

“Mae ei stumog e’n edrych yn well!”