Mae dyn 32 oed a dynes 31 oed wedi cael eu harestio gan Heddlu West Midlands ar amheuaeth o droseddau’n ymwneud â Syria.

Cawson nhw eu harestio yn Dover.

Mae’r dyn wedi’i amau o baratoi i gyflawni troseddau brawychol ac o ariannu neu gefnogi brawychiaeth.

Mae’r ddynes wedi’i hamau o baratoi i gyflawni troseddu brawychol.

Mae’r heddlu’n pwysleisio nad oes perygl i’r cyhoedd, ac maen nhw’n dweud nad yw’n gysylltiedig â’r ymosodiad diweddar yn Llundain.