Mae James Cleverly, cadeirydd y Blaid Geidwadol, wedi ymddiheuro am yr achosion o Islamoffobia o fewn y blaid, ond mae’n mynnu bod camau yn eu lle i fynd i’r afael â’r sefyllfa.

Mae’n dweud y bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal y flwyddyn nesaf, a bod y gwaith cychwynnol eisoes wedi’i gwblhau.

“Ochr yn ochr â’r ymgyrch ar gyfer yr etholiad cyffredinol, rydyn ni wedi bod yn gwneud gwaith paratoadol a byddwn ni’n gwneud cyhoeddiad ffurfiol yn fuan, cyn gynted ag y bydd yr etholiad ar ben,” meddai wrth ralen Pienaar’s Politics ar BBC Radio 5 Live.

“Bydd yn edrych yn benodol ar Islamoffobia o fewn fy mhlaid.

“Fe fydd yn rhaid iddo, yn ôl ei ddiffiniad, edrych ar bethau eraill hefyd oherwydd allwch chi ddim bob amser tynnu’r peth yn ddarnau.”

‘Bwlch mawr’

Wrth gymharu Islamoffobia o fewn y Blaid Geidwadol a’r ffrae am wrth-Semitiaeth o fewn y Blaid Lafur, mae’n dweud bod “bwlch mawr” rhwng y ddau beth.

“Mae graddfa’r broblem o fewn y Blaid Lafur yn enfawr ac yn wahanol, a’r hyn rydyn ni’n ei weld heddiw yw eu bod nhw’n amharod i ymdrin ag e, ac mae hynny’n rhan fawr o’r broblem,” meddai.

“Mae bwlch mawr rhwng y ddau beth.”

Mae’n dweud bod yn “flin” ganddo am yr achosion o Islamoffobia, ac mae’n dweud bod Boris Johnson, prif weinidog Prydain, eisoes wedi ymddiheuro am “sarhau” pobol sy’n gwisgo’r niqab, y benwisg Foslemaidd i fenywod – er nad yw e wedi ymddiheuro am y sylwadau fel y cyfryw.