Fe ddaeth i’r amlwg fod y dyn a gafodd ei saethu’n farw ar ôl ymosod ar nifer o bobol ar bont London Bridge, wedi bod ar drwydded ar ôl cael ei ryddhau o’r carchar am gynllwyn i fomio’r Gyfnewidfa Stoc.

Roedd Usman Khan, 28, yn byw yn ardal Stafford ac mae’r heddlu’n chwilio’i gartref yno.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r bont hanesyddol am 1.58 brynhawn ddoe (dydd Gwener, Tachwedd 29) yn dilyn adroddiadau bod nifer o bobol wedi cael eu trywanu.

Cafodd dyn a dynes eu lladd, ac mae dyn a dwy ddynes mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Fe ddaeth i’r amlwg fod yr heddlu’n adnabod y troseddwr, ar ôl iddo gael ei ryddhau ar drwydded fis Rhagfyr y llynedd, a hynny ar ôl i lys ei gael yn euog o droseddau brawychol yn 2012.

Roedd e wedi bod yn gwisgo tag electronig, ac roedd hefyd yn gwisgo fest ffug.

Dywed y Bwrdd Parôl ei fod e wedi cael ei ryddhau’n awtomatig heb gael ei drosgwlyddo iddyn nhw am wrandawiad.