Mae’r heddlu wedi saethu dyn yn farw ar bont enwog London Bridge yn Llundain.
Mae adroddiadau bod y dyn sydd wedi ei saethu wedi trywanu sawl aelod o’r cyhoedd.
Ac mae Neil Basu, Pennaeth Heddlu Gwrth-frawychiaeth Prydain, wedi cadarnhau bod sawl aelod o’r cyhoedd wedi eu hanafu yn ystod y digwyddiad.
“Gallaf gadarnhau ein bod yn credu mai ffug oedd y ddyfais ffrwydrol oedd wedi ei gwisgo ar gorff y dyn dan amheuaeth,” meddai.
Yn ôl adroddiadau mae chwech o bobol wedi eu hanafu, a thri ohonyn nhw mewn cyflwr difrifol iawn.
Bu ymosodiad brawychol yn London Bridge yn 2017.