Byddai Merêd yn “troi yn ei fedd” o wybod bod ei fywyd yn cael ei ddathlu trwy gyfres o gymanfaoedd gwerin.
Treuliodd Meredydd Evans ei fywyd yn casglu a pherfformio caneuon gwerin Cymraeg, a pe bai’n dal yn fyw mi fyddai’n dathlu ei ben-blwydd yn 100 fis nesaf.
Ac i ddathlu hynny mae elusen a gafodd ei sefydlu ganddo, Ymddiriedolaeth William Salisbury, wedi bwrw ati i drefnu ‘Meredydd Evans yn 100: Cymanfaoedd Gwerin (Cymanfaoedd Codi’r To)’.
Mae deuddeg o nosweithiau wedi eu trefnu i gyd, ac fe gafodd y gyntaf ei chynnal ym Mhwllheli, ac mi fydd yr olaf yn cael ei chynnal yn Llanegryn ar Ragfyr 9 – dyddiad pen-blwydd Meredydd Evans.
Yn ôl Trysorydd yr ymddiriedolaeth, Rocet Arwel Jones, byddai’r digwyddiad yn gwneud Merêd yn anghyffyrddus – ond byddai’n ei hoffi go-iawn.
“Dw i’n meddwl y bydda fo’n troi yn ei fedd yn meddwl bod pobol yn dathlu ei fywyd o fel hyn,” meddai wrth golwg360.
“Ond mi fydda fo’n dawel bach yn hapus iawn bod pobol yn cael hwyl, yn canu, yn treulio eu hamser yn mwynhau caneuon gwerin…
“Mae’n ffordd dda o dynnu tri pheth at ei gilydd – nodi ei ben-blwydd o, dathlu canu gwerin fel yr oedd o’n ei fwynhau, a chodi arian at elusen roedd o ei hun wedi ei sefydlu.”