Mae’r band roc trwm Alffa yn lansio eu halbwm Rhyddid o’r Cysgodion Gwenwynig heno (Tachwedd 29) yn Nhŷ Glyndŵr, Caernarfon.
Bydd elw’r noson yn cael ei roi i’r wefan Meddwl.org sy’n trafod iechyd meddwl.
Mae Alffa wedi cael llwyddiant syfrdanol ar wefan spotify, gyda’r gân ‘Gwenwyn’ wedi ei ffrydio tros dair miliwn o weithiau erbyn hyn.
Dwy filiwn o wrandawiadau i’r gân ‘Gwenwyn’ gan Alffa
Ac mae’r band wedi bod yn gweithio ar yr albwm, sy’n cynnwys 11 o ganeuon, ers tua blwyddyn ac mae Dion Jones yn “hapus iawn efo sut mae o’n swnio”.
Er bod y band yn adnabyddus am draciau roc trwm fel ‘Gwenwyn’ a ‘Pla’, gig acwstig fydd yr un i lansio’r albym newydd.
“Roedden ni eisiau gwneud gig acwstig ychydig yn fwy syml am wn i, ac mae’r arian i gyd yn mynd i’r elusen Meddwl.org hefyd,” meddai canwr y band Dion Jones.
“Mae’r elusen wedi helpu ni efo PR a phethau felly, mae o’n achos ofnadwy o dda ac yn rhywbeth pwysig i wneud dw i’n meddwl.”
DIENW yn cefnogi
Y band DIENW sydd yn cefnogi Alffa yn Nhŷ Glyndŵr.
Mae’r band wedi bod yn ennyn cryn sylw yn ddiweddar ac wedi arwyddo i label I KA CHING.
“Mae drymar DIENW, Osian yn frawd i Siôn drymar ni, ac maen nhw’n two piece hefyd felly roedden ni’n meddwl ei fod o’n gwneud synnwyr,” eglura Dion Jones.