Mae llefarydd ar ran teuluoedd Hillsborough yn gofyn “pwy roddodd 96 o bobol yn eu beddau?” ar ôl i lys gael plismon yn ddieuog.

Brynhawn ddoe (dydd Iau, Tachwedd 28), cafwyd David Duckenfield yn ddieuog o ddynladdiad trwy esgeulustod difrifol 96 o gefnogwyr tîm pêl-droed Lerpwl yn stadiwm Hillsborough yn Sheffield ar Ebrill 15, 1989, wrth i’r tîm herio Nottingham Forest yn rownd gynderfynol Cwpan FA Lloegr.

Roedd yr erlyniad yn Llys y Goron Preston yn dadlau mai David Duckenfield, fel prif drefnydd plismona’r gêm, oedd yn bennaf gyfrifol am y trychineb ar derasau Leppings Lane.

‘Gwarth’

Yn ôl Margaret Aspinall, a gollodd ei mab James yn y trychineb ac a fu’n llefarydd y teuluoedd yn ystod y cwestau a’r achos llys, mae’r teuluoedd wedi cael eu siomi gan y system gyfiawnder.

Dim ond 95 o farwolaethau a gafodd eu hystyried yn ystod yr achos llys, gan fod cefnogwr arall, Tony Bland, wedi marw dros flwyddyn ar ôl y trychineb ac felly doedd dim modd dwyn achos ynghylch ei farwolaeth.

Daeth ail gwest i’r casgliad fod y cefnogwyr wedi cael eu lladd yn anghyfreithlon, ar ôl gwyrdroi penderfyniad y cwest gwreiddiol.

“Dw i’n beio’r system sydd mor foesol anghywir o fewn y wlad hon, ac mae’n warth ar y genedl hon,” meddai.

“Pan gaiff 96 o bobol eu lladd yn anghyfreithlon – maen nhw’n dweud 95, rydyn ni’n dweud 96 – a does yna’r un person yn atebol, y cwestiwn yr hoffwn i ei ofyn i chi ac i bobol o fewn y system yw, pwy roddodd 96 o bobol yn eu beddau, pwy sy’n atebol?”

Roedd oddeutu 45 o aelodau o’r teuluoedd wedi ymgasglu yn adeilad Cunard yn Lerpwl i glywed y rheithfarn.

Pan gafodd ei chyhoeddi, roedd nifer yn eu dagrau.

Yn y llys, roedd nifer yn cwestiynu’r rheithfarn ac yn gofyn pwy oedd yn gyfrifol os nad David Duckenfield, oedd wedi gorfod wynebu ail achos ar ôl i’r rheithgor yn yr achos cyntaf fethu â gwneud penderfyniad.

David Duckenfield a’r dystiolaeth yn ei erbyn

 Clywodd y llys fod David Duckenfield, oedd yn aelod o Heddlu De Swydd Efrog ar y pryd, wedi gorchymyn y dylid agor gatiau ar derasau Leppings Lane am 2.52yp, wyth munud cyn dechrau’r gêm.

Roedd cefnogwyr yn ceisio mynd i mewn i’r stadiwm yn eu heidiau, ac fe aeth mwy na 2,000 o gefnogwyr i mewn trwy Gât C a thrwy dwnnel, ac fe gafodd cefnogwyr eu gwasgu.

Roedd David Duckenfield wedi’i gyhuddo o beidio ag ymateb i’r digwyddiad.

Ond fe glywodd y llys ei fod e bellach yn dioddef o effeithiau straen yn ymwneud â’r digwyddiad ac na fyddai’n gallu rhoi tystiolaeth wrth sefyll ei brawf.

Yn hytrach na rhoi tystiolaeth, cafodd fideo ei chwarae yn dangos David Duckenfield yn rhoi tystiolaeth yn y cwestau.

Roedd y teuluoedd wedi beirniadu’r barnwr am gydymdeimlo’n gyhoeddus â’r ffaith fod David Duckenfield yn dioddef o PTSD.

Fe gymerodd 13 awr a 43 munud i’r rheithgor ddod i benderfyniad ar ôl i’r barnwr Syr Peter Openshaw eu hannog i wneud penderfynid heb emosiwn na chydymdeimlad.

Cyhuddiadau eraill

Yn gynharach eleni, cafwyd Graham Mackrell, cyn-ysgrifennydd Clwb Pêl-droed Sheffield Wednesday, yn euog o droseddau iechyd a diogelwch, ac fe gafodd e ddirwy o £6,500 a gorchymyn i dalu costau gwerth £5,000.

Dywedodd y llys ei fod e wedi methu â sicrhau bod digon o gatiau ar agor i’r cefnogwyr.