Mae protestwyr amgylcheddol oedd yn gwrthwynebu HS2 yn mynd drwy goetir yn Orllewin Llundain wedi colli eu hachos llys diweddaraf.

Roedd arweinwyr HS2 wedi cwyno fod protestwyr yn meddiannu llwybr yn ardal Hillingdon a gofynnwyd i’r Barnwr David Holland i roi “meddiant” iddyn nhw.

Cododd y protestwyr nifer o ofidion amgylcheddol, gan gynnwys llygredd dŵr, ac yn gwrthwynebu cais “meddiant” HS2.

Cytunodd y barnwr gyda HS2 heddiw (Tachwedd 28), ond dywed fod gan y protestwyr hawl i brotestio o amgylch yr ardal yn Hillingdon, ond ddim ar y llwybr.