Mae gyrrwr lori 25 oed wedi pledio’n euog i gynorthwyo gyda chynllwyn mewnfudo anghyfreithlon.

Mae Maurice Robinson wedi’i gyhuddo o ddynladdiad 39 o bobol y cafwyd hyd i’w cyrff mewn oergell yng nghefn ei lori yn Grays yn Essex ar Hydref 23, ac o drosglwyddo eiddo troseddol.

Criw o bobol o Fietnam oedden nhw, a nifer o blant yn eu plith.

Aeth Maurice Robinson gerbron llys yr Old Bailey trwy gyswllt fideo o garchar Belmarsh.

Fe wnaeth e gyfaddef hefyd iddo gaffael eiddo troseddol, sef arian.

Dydy e ddim wedi cyflwyno ple mewn perthynas â’r cyhuddiadau eraill.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa a bydd gwrandawiad pellach yn cael ei gynnal ar Ragfyr 13.