Mae cwmni Uber wedi colli eu trwydded i gludo teithwyr yn Llundain yn sgil pryderon am ddiogelwch cwsmeriaid.

 

Mae’r corff sy’n rheoleiddio teithio yn y ddinas yn dweud bod y cwmni wedi torri nifer o reoliadau diogelwch sydd wedi peryglu teithwyr.

 

Mae adroddiadau bod nifer o’r gyrwyr heb yswiriant na thrwyddedau dilys i gludo teithwyr.

 

Mae trwydded y cwmni’n dod i ben am 11.59 heno (nos Lun, Tachwedd 25) ond fe fydd hawl gan y cwmni i barhau i gludo teithwyr wrth iddyn nhw apelio yn erbyn y penderfyniad.

 

Dywed Transport for London fod methu â sicrhau diogelwch teithwyr yn “annerbyniol”.