Fe fydd gyrrwr lori 25 oed o Ogledd Iwerddon yn mynd gerbron llys heddiw (dydd Llun, Tachwedd 25), wedi’i gyhuddo o ddynladdiad 39 o bobol y cafwyd hyd i’w cyrff yng nghefn ei gerbyd.

Mae Mo Robinson hefyd wedi’i gyhuddo o gynllwynio i fasnachu pobol ac o gynorthwyo mudo anghyfreithlon rhwng Rhagfyr 2018 a Hydref eleni, ac o gaffael eiddo troseddol ac o gelu eiddo troseddol.

Cafwyd hyd i’r cyrff mewn oergell yn ei lori yn Grays yn Essex ar Hydref 23.

Pobol o Fietnam oedden nhw, a nifer o blant yn eu plith.

Bydd yn mynd gerbron yr Old Bailey trwy gyswllt fideo.

Bydd dyn arall, Christopher Kennedy, 23 oed o Ogledd Iwerddon, yn mynd gerbron ynadon Chelmsford heddiw, wedi’i gyhuddo o fasnachu pobol, o gynllwynio i dorri deddfau mewnfudo ac o gynllwynio i drefnu neu hwyluso masnachu pobol gyda’r bwriad o’u hecsbloetio.