Mae Tywysog Charles wedi annerch cynulleidfa yn yr iaith Pijin ar Ynysoedd Solomon.

Fe ddaeth ei araith yn Stadiwm Lawson Tama ar ddiwrnod olaf ei ymweliad â’r wlad.

Dechreuodd ei araith i fonllef o gymeradwyaeth wrth iddo ddweud “Me hapi tumas for visiting ples blong yufala” – neu “Dw i’n hapus o gael ymweld â’r lle hwn”.

Fe siaradodd am ei berthynas arbennig yntau a’i deulu â’r wlad, newid hinsawdd a’r amgylchedd.

Ac mewn araith yn senedd yr ynysoedd – yn Saesneg – fe siaradodd am bwysigrwydd atal trais yn erbyn menywod a merched.

Yn ôl arolwg ar yr ynys yn 2009, mae bron i ddau draean o fenywod rhwng 15 a 49 oed wedi dioddef trais dan law partner.

Fe fu Tywysog Charles hefyd yn ymweld â gwesty crand ar gyfer derbyniad swyddogol, ac asiantaeth pysgodfeydd.