Mae saith dyn wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio ac o geisio llofruddio, ar ôl i ddyn 27 oed gael ei drywanu i farwolaeth mewn parti yn nwyrain Llundain.
Cafodd tri o bobol eraill eu hanafu mewn ffrwgwd yn ardal Whitechapel fore ddoe (dydd Sadwrn, Tachwedd 23).
Mae chwech o ddynion rhwng 23 a 29 oed yn y ddalfa, ac mae dyn 26 oed yn y ddalfa yr ysbyty.
Mae Heddlu Llundain yn apelio am dystion.
Dyn wedi’i drywanu yng ngorllewin Llundain
Mewn digwyddiad arall yng ngorllewin y ddinas, mae dyn yn ei 20au wedi marw ar ôl cael ei drywanu.
Does dim cyswllt rhwng y digwyddiad hwn â’r un yn Whitechapel.
Cafodd yr heddlu eu galw i orsaf drenau West Ealing am oddeutu 1 o’r gloch y bore.
Cafodd y dyn driniaeth ond fe fu farw yn y fan a’r lle.