Fe wnaeth nifer o blismyn ddioddef ymosodiadau yn dilyn ffrwgwd mewn sinema yn Birmingham brynhawn ddoe (dydd Sadwrn, Tachwedd 23).
Cawson nhw eu galw i’r digwyddiad yn ardal Nechells y ddinas toc ar ôl 5.30yp.
Daethon nhw o hyd i fwy na 100 o bobol, a nifer sylweddol ohonyn nhw’n ymladd.
Cafodd pump o bobol eu harestio, ac mae gorchymyn gwasgaru mewn grym, sy’n golygu y gall yr heddlu arestio unrhyw un sy’n gwrthod symud.
Roedd gan yr heddlu ddryllau Taser, yn ôl tystion.
Ond dydy hi ddim yn glir a oedd gan y sawl oedd yn ymladd eu harfau eu hunain.
Mae’n debyg bod y digwyddiad wedi codi ofn ar nifer o blant oedd yn y sinema.