Yn Seland Newydd, mae dyn 27 oed wedi’i gael yn euog o lofruddio’r deithwraig o wledydd Prydain, Grace Millane.

Cafwyd hyd i’w chorff mewn siwtces a oedd wedi cael ei gladdu mewn ardal goediog ger Auckland.

Clywodd y llys bod Grace Millane o Wickford, Essex wedi cael ei thagu gan ddyn roedd hi wedi cwrdd ar y wefan Tinder ar Ragfyr 1 y llynedd.

Ar ôl bod allan yn yfed roedd y cwpl wedi dychwelyd i fflat y dyn a chafodd Grace Millane ei lladd un ai’r noson honno neu yn oriau man y bore wedyn, sef dyddiad ei phen-blwydd yn 22 oed.

Roedd y rheithgor o saith dynes a phum dyn wedi dod i benderfyniad unfrydol wedi pum awr o ystyried y dystiolaeth yn yr Uchel Lys yn Auckland.

Ni ellir cyhoeddi enw’r dyn am resymau cyfreithiol.

Roedd rhieni Grace Millane yn y llys ar gyfer yr achos ac maen nhw wedi dweud y bydd y dyfarniad yn cael ei groesawu gan ei theulu a’i ffrindiau.

Fe fydd y dyn yn cael ei ddedfrydu ar Chwefror 21 2020. Mae’n wynebu dedfryd o garchar am oes.