Y Ceidwadwyr fydd ar fai os fydd y bleidlais Brexit yn cael ei rhannu yn Ynys Môn, yn ôl yr ymgeisydd Plaid Brexit.
Dim ond pedair plaid sydd yn cystadlu am y sedd, ac o’r rheiny mae hanner yn cefnogi Brexit – y Ceidwadwyr a Phlaid Brexit – ac un blaid yn frwd yn ei erbyn – Plaid Cymru.
Fe bleidleisiodd Môn o blaid Brexit yn refferendwm 2016, ond mae’r ffaith fod y Ceidwadwyr a Phlaid Brexit yn sefyll yn yr etholiad yn cael ei weld yn hwb i obeithion Plaid Cymru.
Cafodd ymgeisydd gwreiddiol y Torïaid ei ddewis yn gymharol hwyr, mae’r ymgeisydd diweddaraf – Virginia Crosbie – yn hanu o Loegr, ac mae Helen Jenner yn feirniadol o hyn oll.
“Yn wreiddiol jest fi, Plaid, a Llafur oedd yn sefyll,” meddai wrth golwg360.
“Ond wrth gwrs ar y funud olaf wnaethon nhw roi rhywun i mewn sydd erioed wedi bod – o’r hyn dw i’n gallu gweld – yn Ynys Môn o’r blaen.
“Penderfyniad y Ceidwadwyr oedd rhoi’r risg yna i hollti’r bleidlais Brexit. O beth dw i’n gwybod am bobol Ynys Môn, dydyn nhw ddim yn cymryd at bobol sydd wedi cael eu parasiwtio i mewn.
“A dw i’n eithaf hyderus bod gen i ddigon o bobol leol sydd yn fy nghefnogi i.”
Dadrithio
Mae’n dweud bod “patrwm ar hyd a lled Cymru” o bobol a bleidleisiodd tros aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn troi at gefnogi Brexit.
Ac ar sail ymateb “da ofnadwy” mae’n dweud iddi gael yng Nghaergybi, mae’n credu bod hynny hefyd yn wir am Ynys Môn.
“Mae lot o’r [rheiny sydd wedi’u dadrithio] eisiau rhywbeth newydd, ac eisiau i wleidyddiaeth newid,” meddai. “A dyna beth rydym ni’n trio gwneud yn y Blaid Brexit.
“Wedi i Brexit fynd trwodd rydym eisiau cefnogi direct democracy, rydym eisiau gwneud yn siŵr bod pobol efo mwy o reolaeth, ac rydym jest eisiau cau’r gap rhwng gwleidyddion a phobol ar y stryd.
“Dw i’n meddwl bod y neges yna yn taro tant gyda’r bobol dw i wedi siarad efo bellach.”