Mae bachgen 17 oed wedi ei roi dan glo am oes am drywanu bocsiwr brwd i farwolaeth yn ystod lladrad stryd.

Roedd y llanc yn un o grŵp a gipiodd fag Wilham Mendes, 25 oed, wrth iddo gerdded adref o’i waith yn Tottenham, gogledd Llundain, ar Ragfyr 22 y llynedd.

Cafodd y porthor bwyty ei gwrso i mewn i lôn gul lle cafodd ei drywanu dro ar ôl tro â chyllell fawr.

Dioddefodd anafiadau “trychinebus” a disgynnodd i farwolaeth wrth i’r bechgyn redeg i ffwrdd gyda’i eiddo, clywodd yr Old Bailey.

Wedi hynny, gwelwyd dau o’r llanciau, 17 oed, yn rhoi “dwrn uchel” wrth ddathlu, clywodd y llys.

Disgrifiodd y Barnwr Angela Rafferty QC farwolaeth Wilham Mendes fel un “creulon a disynnwyr”.