Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i farwolaethau 39 o bobl mewn lori yn Essex yn chwilio am ddau o bobol neeydd.
Dywed yr heddlu eu bod am siarad â Ronan Hughes, 40, a’i frawd Christopher, 34, y ddau o Armagh, ar amheuaeth o ddynladdiad a masnachu mewn pobol.
Yn ôl yr heddlu, mae gan Ronan Hughes, sydd hefyd yn mynd wrth yr enw Rowan, a Christopher Hughes gysylltiadau â Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon.
Cafwyd hyd i gyrff wyth o ferched a 31 o ddynion mewn trelar oergell ynghlwm wrth lori mewn parc diwydiannol yn Greys yn oriau mân ddydd Mercher diwethaf (Hydref 23)