Mae heddwas yn yr ysbyty yn derbyn triniaeth ar ôl torri ei goes mewn gwrthdrawiad â char yn Llundain.

Fe adawodd y car safle’r ddamwain toc wedi 11.30yb, cyn i Heddlu’r Met atal cerbyd yn White Hart Lane, Tottenham.

Roedd y cerbyd wefi dod i stop, ond yna gyrrodd i ffwrdd ar gyflymder gan daro swyddog.

Credir bod y swyddog wedi torri ei goes, a chafodd ei gludo i’r ysbyty gan ambiwlans awyr.

Nid oes unrhyw un wedi eu harestio eto ac mae Heddlu’r Met yn parhau i wneud ymholiadau.