Mae gyrrwr lori 25 oed o Ogledd Iwerddon wedi cael ei gyhuddo o ddynladdiad 39 o bobol.

Cafwyd hyd i’w cyrff yng nghefn ei lori yn ardal Grays yn Essex ddydd Mercher (Hydref 23).

Mae Maurice Robinson hefyd wedi’i gyhuddo o fasnachu pobol a throseddau’n ymwneud â mewnfudo a gwyngalchu arian.

Bydd yn mynd gerbron ynadon yn Chelmsford ddydd Llun (Hydref 28).