Mae heddlu Dulyn wedi arestio dyn yn ei 20au o Ogledd Iwerddon mewn perthynas â marwolaeth 39 o bobol y cafwyd hyd i’w cyrff yng nghefn lori yn Essex ganol yr wythnos.

Cafodd ei arestio yn y porthladd wrth i fferi gyrraedd o Ffrainc.

Mae lle i gredu bod yr heddlu’n awyddus i’w holi am daith y cynhwysydd lle cafwyd hyd i’r cyrff.

Cafwyd hyd i’r cyrff mewn trelar yn Essex ddydd Mercher (Hydref 23).

Y rhai sydd wedi’u harestio

Mae pedwar o bobol eraill yn cael eu holi yn Lloegr.

Cafodd gyrrwr 25 oed y lori o Ogledd Iwerddon ei arestio ar amheuaeth o lofruddio ar ôl casglu’r trelar lle daeth yr heddlu o hyd i’r cyrff.

Cafodd dyn 48 oed ei arestio ym maes awyr Stansted, ac mae’n cael ei holi ar amheuaeth o ddynladdiad ac o gynllwynio i fasnachu pobol.

Cafodd cwpl 38 oed o Warrington, sy’n hanu o Iwerddon, eu harestio ddoe (dydd Gwener, Hydref 25) ar amheuaeth o ddynladdiad ac o fasnachu pobol.

Mae lle i gredu bod y bobol fu farw yn dod o China a Fietnam, a’u bod yn cludo pasborts ffug.

Mae’r heddlu’n dweud y gallai’r broses o’u hadnabod fod yn un gymhleth, ond maen nhw wedi dechrau cysylltu â theuluoedd sy’n dweud bod eu perthnasau ar goll ar ôl iddyn nhw dalu symiau mawr o arian i’w cludo i wledydd Prydain.