Mae teulu dynes 21 oed o Sussex wedi teithio i Cambodia i chwilio amdani.

Does neb wedi gweld Amelia Bambridge ers dydd Mercher (Hydref 23), pan oedd hi ar ynys Koh Rong gyda’i ffrindiau.

Cafodd ei mam Linda wybod gan westy ei bod hi ar goll a bod ei heiddo wedi cael ei ganfod ar draeth gerllaw.

“Mae hyn yn anarferol iawn o ran ei chymeriad, mae hi fel arfer mor drefnus,” meddai ei mam.

“Dw i ddim yn gwybod beth i’w feddwl.

“Mae’r heddlu wedi cadarnhau ei bod hi ar goll – mae’n debyg fod y llysgenhadaeth ynghau tan ddydd Llun.

“Dydy hi ddim yn ymddangos fel pe bai unrhyw frys.”

Mae ei brawd yn apelio am wybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae’r Swyddfa Dramor yn dweud eu bod nhw’n trafod y sefyllfa â heddlu Cambodia.