Dylai Jeremy Corbyn, arweinydd Llafur, fod yn “ddewr” wrth ddweud wrth gefnogwyr Brexit fod eu safbwynt yn “anghywir”, yn ôl Sadiq Khan.
Roedd Sadiq Khan ymhlith y garfan wreiddiol o bobol fu’n galw am ail refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.
Dyna safbwynt ei blaid bellach, ond mae Maer Llundain yn un o’r rhai sy’n rhwystredig wrth i Lafur geisio apelio at arhoswyr ac ymadawyr.
Mae cadw’r ddwy ochr yn hapus yn colli pleidleisiau i’r blaid, yn ôl rhai.
Fe fu arhoswyr yn galw ar Lafur i gefnu ar gefnogaeth i gytundeb Brexit a chyhoeddi eu dymuniad i aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
Mae’n bryd i Jeremy Corbyn “ddangos arweiniad”, meddai Sadiq Khan wrth bapur newydd Eidalaidd, La Repubblica, a pheidio â bod yn “bob peth i bawb”.
Mae’n argyhoeddedig o hyd fod “pob ffurf ar Brexit yn waeth nag aros yn yr Undeb Ewropeaidd”, meddai.
Roedd y rhan fwyaf o Lundeinwyr o blaid aros adeg y refferendwm yn 2016.
Eglurhad
“Hoffwn i’r Blaid Lafur fod yn fwy dewr a rhoi arweiniad ar y mater hwn,” meddai Sadiq Khan.
“Weithiau, dweud wrth bobol allai fod yn dymuno gadael yr Undeb Ewropeaidd, ‘Gwrandewch, dw i’n eich parchu chi, ond gadewch i fi egluro pam eich bod chi’n anghywir a pham dw i’n credu y dylen ni ymgyrchu dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd’.
“Gadewch i fi egluro pam nad ydy’r problemau sydd gyda chi gyda’ch ysgol, eich gofal iechyd, gydag addysg eich plentyn, gyda chartrefi o ganlyniad i’r Undeb Ewropeaidd’.
“Mewn gwirionedd, maen nhw’n digwydd am ein bod ni wedi methu neu heb wneud digon. Dyna’r sgwrs ddylen ni fod yn ei chael yn hytrach na cheisio bod yn bob peth i bawb.”
‘Taith’
Dywed Sadiq Khan ei fod yn deall “taith” Jeremy Corbyn wrth geisio deall ei berthynas ag Ewrop.
Ond mae’n dweud y dylai “fynd ymhellach” a chefnogi aros, gan egluro ei safbwynt a “chael dadl” â’r rhai sy’n credu fel arall.
“Gwell hwyr na hwyrach,” meddai ar dro pedol Llafur ar ail refferendwm.