Mae’r Aelod Cynulliad Llŷr Gruffydd wedi codi pryderon fod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn talu £1,990 y diwrnod i ymgynghorydd ym Marbella.

Ar ben hynny, mae sawl ffigwr arall yn derbyn oddeutu £1,000 y dydd gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr am eu gwasanaeth, meddai.

Phillip Burns yw’r dyn sydd tu ôl i’r syniad dadleuol o newid rotas nyrsys Betsi Cadwaladr er mwyn arbed arian.

Ond honnodd Llŷr Gruffydd yn y Siambr ddoe (dydd Gwener, Hydref 25) fod cyflog yr ymgynghorydd yn fwy na’r arbedion fyddai newid rotas yn arwain atyn nhw.

Mae Phillip Burns yn honni fod y bwrdd iechyd yn talu “cyfradd y farchnad” am ei wasanaeth.

Llythyr di-enw

Daeth yr Aelod Cynulliad Llŷr Gruffydd i wybod am y mater mewn llythyr dienw a gafodd ei anfon ato gan aelod uwch o staff ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, sy’n honni bod yr enghraifft yma o wariant ddim ond yn “crafu’r wyneb”.

Mae awdur y llythyr yn dweud na all ddatgelu ei enw oherwydd “diwylliant y sefydliad”.

Dywed hefyd fod angen rhoi terfyn ar “wastraff a gormodedd na ddylai fod lle iddyn nhw o fewn ein gwasanaethau cyhoeddus gwerthfawr”.

Gweinidog iechyd ddim yn ymwybodol

Treuliodd Llŷr Gruffydd fis yn ceisio cael ymateb gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething ynghylch y mater, ond heb lwyddiant.

Bu’n rhaid iddo gael dogfen rhyddid gwybodaeth er mwyn cadarnhau bod yr honiadau yn y llythyr yn gywir.

Mae Vaughan Gething yn honni nad oedd ymwybodol o’r sefyllfa.

“Mae wir er lles y cyhoedd i gael gwybod a yw’r honiad hwn yn gywir,” meddai Llŷr Gruffydd mewn datganiad.

“Does dim esgus am anwybyddu cynrychiolydd etholedig sy’n codi’r pryderon hyn yn breifat.

“Dw i’n teimlo bod rhaid codi hyn yn gyhoeddus er mwyn cael ateb pendant.

“Dw i’n sicr y bydd gan staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddiddordeb yn yr ymateb, ac yn falch fod y Gweinidog Iechyd yn teimlo bod yr oedi’n annerbyniol.”