Mae chwech o bobol, gan gynnwys llanc 16 oed, wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio dyn 26 oed yn Scarborough.
Cafodd y dyn ei drywanu i farwolaeth ger neuadd y dref yn ystod oriau man bore heddiw (dydd Sul, Hydref 20).
Cafwyd hyd i’r dyn ag anafiadau difrifol ac fe gafodd ei gludo i’r ysbyty, lle bu farw’n ddiweddarach.
Mae’r llanc 16 oed a phum dyn rhwng 18 a 21 yn cael eu holi yn y ddalfa, ac mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.