Byddai’r broses o hollti Prydain pe bai’r Alban yn mynd yn wlad annibynnol “yn fwy anodd o lawer na Brexit”, yn ôl Jo Swinson, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol.
Mae hi’n dweud ei bod hi wedi dysgu hynny yn sgil y broses Brexit yn dilyn y refferendwm yn 2016.
Fe fu’r aelod seneddol dros Ddwyrain Sir Dunbarton yn siarad â gorsaf radio yn yr Alban ar ôl i Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, gyhoeddi’r wythnos ddiwethaf y byddai hi’n ceisio ail refferendwm y flwyddyn nesaf.
“Dw i eisiau i’r Deyrnas Unedig aros yn yr Undeb Ewropeaidd, dyna dw i’n gweithio drosto fe a dw i’n credu bod hynny’n dal yn bosibl,” meddai Jo Swinson.
“Dw i’n credu o hyd y gallwn ni wneud hynny a dw i ddim am gefnu ar hynny oherwydd dw i’n credu ein bod ni’n well ein byd gyda’r Alban yn y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd.
“A gadewch i ni gofio mai dyna mae’r Alban wedi pleidleisio drosto – pleidleisiodd 55% o blaid gadw’r Alban yn y Deyrnas Unedig, a 62% o blaid cadw’r Deyrnas Unedig yn yr Undeb Ewropeaidd.
“Fi, fwy neu lai, yw’r unig arweinydd yn yr Alban sy’n dadlau dros y safbwynt hwnnw.”
Mae’n dweud bod datod clymau’n “gymhleth ac yn anodd”, ac y byddai “torri i fyny undeb o 300 o flynyddoedd yn fwy anodd o lawer na’r hyn rydyn ni’n ei brofi gyda Brexit”.