Mae un o filwyr Twrci wedi cael ei ladd ynghanol brwydrau â milwyr Cwrdaidd yng ngogledd Syria.
Daw’r newyddion er gwaethaf cadoediad sydd wedi’i gytuno o dan arweiniad yr Unol Daleithiau.
Mae llywodraeth Twrci yn dweud bod milwyr Cwrdaidd Syria wedi torri amodau’r cadoediad ryw ugain o weithiau.
Cafodd y milwr ei ladd gan ddefnyddio arfau gwrth-danciau ac arfau eraill.
Mae saith o filwyr Twrci bellach wedi cael eu lladd wrth frwydro â lluoedd Cwrdaidd Syria.
Mae cerbydau dyngarol wedi cael mynd i mewn i dref Ras al-Ayn ar y ffin er mwyn trin milwyr sydd wedi cael eu clwyfo.
Mae Twrci’n trin grwpiau Cwrdaidd Syria fel brawychwyr o ganlyniad i’w cysylltiadau ag ymosodiadau yn y wlad ers rhai degawdau.