Mae dyn 22 oed wedi cael ei drywanu i farwolaeth yn ystod ffrwgwd yng ngorllewin Llundain.
Fe ddigwyddodd yn ardal Ealing am oddeutu 6 o’r gloch neithiwr (nos Fawrth, Medi 24), ac fe fu farw yn y fan a’r lle.
Mae ei deulu wedi cael gwybod, ac mae un dyn wedi cael ei arestio.
Dydy’r heddlu ddim yn ymchwilio i unrhyw gyswllt rhwng y digwyddiad hwn a marwolaethau dau ddyn arall yn Hillingdon a Southall ar yr un diwrnod.
Mae’r heddlu’n cynnal ymchwiliad.
Mae gorchymyn arbennig yn ei le yn Hillingdon ac Ealing, sy’n rhoi’r hawl i’r heddlu archwilio unrhyw un os ydyn nhw’n cael eu hamau o gyflawni trosedd.