Mae’r cwmni oedd yn gyfrifol am adeiladu bysus Llundain pan oedd Boris Johnson yn faer, yn nwylo’r gweinyddwyr.

Mae lle i gredu bod cwmni Wrightbus yn cyflogi hyd at 1,500 o weithwyr, a’i fod yn un o brif gyflogwyr Gogledd Iwerddon.

Daeth cadarnhad gan yr aelod seneddol Ian Paisley y byddai’r broses weinyddu’n dechrau heddiw (dydd Mercher, Medi 25), a bod cyfarfodydd undebau ar y gweill.

‘Bysus Boris’

Pan oedd Boris Johnson yn Faer Llundain, cafodd y bysus, oedd yn cael eu hadnabod fel ‘bysus Boris’, eu beirniadu am fod yn rhy ddrud.

Mae lle i gredu bod yr wyth bws cyntaf wedi costio £1.4m yr un i’w dylunio a’u hadeiladu.

Roedd rhai hefyd yn cwyno eu bod yn rhy boeth, ac fe fu’n rhaid addasu’r bysus a ddaeth wedyn fel bod mwy o ffenestri ynddyn nhw.

Mae William Wright, sylfaenydd y cwmni, yn gefnogwr o blaid y DUP, ac yn frwd dros Brexit.

Ond hwn yw’r cwmni diweddaraf i wynebu trafferthion wrth i Brydain baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd.