Mae rhagor na 300 o fyfyrwyr prifysgol, ynghyd â phlismyn, wedi cael eu hanafu ym mhrifddinas Indonesia, wedi iddyn nhw fynd ben-ben yn ystod protestiadau yn erbyn llygredd gwleidyddol.

Mae’r gwrthdystio yn digwydd yn erbyn cyfraith newydd sydd – yn ol protestwyr – yn rhwystro asiantaeth sy’n sbio i mewn i achosion o lygredd gwleidyddol, rhag gwneud ei gwaith.

Mae llefarydd ar ran yr heddlul yn Jakarta wedi cadarnhau fod o leia’ 265 o fyfyrwyr, a 39 o blismyn, wedi derbyn triniaeth mewn ysbytai yn y brifddinas.

Yn ystod y brotest y tu allan i’r senedd, fe ddefnyddiodd yr heddlu nwy dagrau a chanonau dwr i geisio gwasgaru’r miloedd o fyfyrwyr. Roedd rhai o’r stiwdants yn taflu cerrig at y plismyn.