Mae llanc 17 oed wedi cyfaddef lladd cyfreithiwr gyda sgriwdreifer.

Cafodd Peter Duncan, 52, ei drywannu wrth iddo gerdded heibio canolfan siopa ar ei ffordd adref o’r gwaith yn Newcastle ar Awst 18.

Roedd y llanc, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, wedi ymddangos drwy gyswllt fideo o garchar Wethereby a chyfaddef cyhuddiad o lofruddiaeth, cyhuddiad o ddwyn sgriwdreifers o Poundland ac o fod ag arf yn ei feddiant.

Dywed heddlu Northumbria mai “cyd-ddigwyddiad” oedd bod Peter Duncan wedi gweld y llanc ar ei ffordd adref o’r gwaith ac nad oedd rheswm am yr ymosodiad.

Fe fydd y llanc yn cael ei ddedfrydu ym mis Rhagfyr ar ol i adroddiadau seicolegol a seiciatryddol gael eu paratoi.