Mae Edward Snowden, oedd yn gyfrifol am ryddhau dogfennau oedd yn datgelu manylion am raglenni gwyliadwriaeth llywodraeth yr Unol Daleithiau, wedi galw ar Arlywydd Ffrainc, Emanuel Macron, i roi lloches wleidyddol iddo.
Mae Edward Snowden yn byw yn Rwsia er mwyn osgoi cael ei ddedfrydu yn yr Unol Daleithiau.
Methodd gael lloches wleidyddol yn Ffrainc yn 2013 pan oedd Francois Hollande yn arlywydd.
Bydd hunangofiant Edward Snowden yn cael ei ryddhau mewn oddeutu ugain gwlad, yn cynnwys Ffrainc, ddydd Mawrth (Medi 17).