Mae dylunydd tŷ bach a gafodd ei ddwyn o Balas Blenheim yn gwadu iddo drefnu lladrad er mwyn denu cyhoeddusrwydd i’w waith.

Cafodd y darn celf gwerth £4.8m ei ddwyn o arddangosfa yn y plasty lle cafodd Winston Churchill ei eni, a hynny yn ystod arddangosfa.

Cafodd ei rwygo oddi ar wal y palas fore ddoe (dydd Sadwrn, Medi 14), ac roedd lle i gredu ar y pryd ei fod yn werth £1m.

Mae gan Maurizio Cattelan, y dylunydd, enw drwg am drefnu triciau cyhoeddusrwydd, ond mae’n gwadu mai dyna sydd wedi digwydd y tro hwn.

“Pwy fyddai mor dwp â dwyn tŷ bach?” meddai wedi’r digwyddiad.

“Dw i eisiau bod yn bositif a meddwl fod y lladrad yn weithred oedd wedi’i hysbrydoli gan Robin Hood.”

Ymchwiliad

Mae dyn 66 oed yn y ddalfa mewn perthynas â’r digwyddiad.

Mae’r heddlu o’r farn fod o leiaf ddau gerbyd wedi cael eu defnyddio yn ystod y lladrad.

Ac maen nhw’n dal i chwilio am yr eitem a’r sawl oedd yn gyfrifol am ei ddwyn.

Yn 1996, fe wnaeth Maurizio Cattelan ddwyn sioe gyfan dylunydd arall o oriel a dweud mai ei waith ef oedd y cyfan.

Dywedodd wedi’r digwyddiad ei fod e wedi dwyn y gwaith am fod ganddo fe bythefnos yn unig i gynhyrchu gwaith ar gyfer arddangosfa arall.