Mae dynes 28 oed a gafodd ei harestio ar amheuaeth o lofruddio dyn oedrannus yn ei gartref yn Dorset wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth.
Cafwyd hyd i gorff y dyn 75 oed yr wythnos ddiwethaf, ac mae lle i gredu iddo ddioddef ymosodiad.
Mae dyn 38 oed yn y ddalfa ar amheuaeth o lofruddio, ac mae dyn 37 oed a gafodd ei arestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr wedi’i ryddhau ar fechnïaeth.
Mae disgwyl i ragor o brofion gael ei gynnal ar gorff y dyn fu farw.
Mae’r heddlu’n parhau i apelio am wybodaeth.