Mae bachgen yn ei arddegau wedi cael ei drywanu i farwolaeth yn nwyrain Llundain

Fe gafodd swyddogion eu galw i Stratford tua 6.45yh neithiwr (nos Fawrth. Medi 3).

Fe ddaeth yr heddlu a pharafeddygon o hyd i fachgen 16 oed ag anafiadau, a bu farw yn ddweddarach yn y fan a’r lle.

Mae Scotland Yard yn cadarnhau fod ymchwiliad llofruddiaeth ar y gweill.