Mae mwyafrif Boris Johnson yn San Steffan wedi diflannu, wedi i un o gyn-weinidogion y Ceidwadwyr groesi’r llawr ar y Democratiaid Rhyddfrydol.
Fe gerddodd Phillip Lee yn llythrennol o feinciau’r Torïaid ym Mhalas Westminster a mynd i eistedd at blaid pro-Ewrop Jo Swinson ar yr ochr arall i’r siambr.
Roedd Boris Johnson yng nghanol ei araith ar y pryd, cyn y daw’r ddadl fawr ar Brexit heb gytundeb heno (nos Fawrth, Medi 3).
Fe fu cyfarfod yn gynharach heddiw rhwng y Prif Weinidog ac aelodau sy’n dymuno aros yn yr Undeb Ewropeaidd fel Philip Hammond a David Gauke. Ond fe aeth y trafodaethau hynny i’r gwellt yn fuan iawn, gyda’r llywodraeth yn cyhuddo Philip Hammond o ymddwyn yn “amharchus”.