Fe fydd Nicola Sturgeon yn mynnu y bydd Holyrood yn cael yr hawl i alw ail refferendwm annibyniaeth.
Mae prif weinidog yr Alban wedi cadarnhau y bydd hi’n “ceisio cytundeb ar gyfer trosglwyddoo grym fel bod refferendwm yn holi barn pobol y wlad y tu hwnt i her gyfreithiol.
Tra bod prif weinidog newydd Prydain, Boris Johnson, wedi nodi’n glir ei wrthwynebiad i gynnal ail refferendwm ar fater yr Alban yn gadael y Deyrnas Unedig, mae Nicola Sturgeon yn dweud ei bod hi bellach yn “anochel” y bydd yna etholiad brys.
“Gadewch i mi fod yn gwbwl glir,” meddai wedyn. “Fe fydd plaid yr SNP yn rhoi gwrthwynebiad yr Alban i Brexit, ynghyd â’n hawl i ddewis annibyniaeth, yn ganolbwynt i unrhyw ymgyrch.”