Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cael ei enwebu ar gyfer gwobr mewn seremoni sy’n cael ei threfnu gan fudiad ‘Sponsor Refugees’

Mae Ceredigion yn un o ddim ond pump awdurdod lleol ledled gwledydd Prydain i gael enwebiad yn y categori helpu teuluoedd sy’n ffoi rhag rhyfel, newyn a digartrefedd.

Lansiwyd Cefnogaeth Gymunedol yn 2016 gan y Swyddfa Gartref ac mae’n galluogi grwpiau gwirfoddol lleol i ail-sefydlu teulu ffoaduriaid yn eu cymuned.

Mae dau gynllun Cefnogaeth Gymunedol – Aberaid a Croeso Teifi – wedi’u sefydlu o fewn sir Ceredigion – y ddau’n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr.

Yn ogystal â dod o hyd i lety addas, mae grwpiau Cefnogaeth Gymunedol yn helpu teuluoedd o ffoaduriaid i wneud ffrindiau a’u helpu i addasu i ardal hollol newydd.

Bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal yn Llundain ar Hydref 8.