Mae merch 19 o wledydd Prydain wedi pledio’n ddieuog mewn llys yn Cyprus am wneud honiad ffug – fel mae erlynwyr yn honni – ei bod hi wedi cael ei threisio gan 12 o bobol o Israel yn y wlad.

Mae’r barnwr wedi nodi Hydref 2 fel dyddiad dechrau’r gwrandawiad ac wedi rhyddhau’r ferch ar fechnïaeth.

Dywedodd ei fod yn “deg ac yn iawn” iddo wneud hynny ar ôl iddi dreulio bron i ddeufis yn nalfa’r heddlu.

Fe ildiodd y ferch ei dogfennau teithio i’r heddlu ac mae’n rhaid iddi ymddangos mewn gorsaf heddlu yn Nicosia dair gwaith yr wythnos.

Mae hi hefyd wedi cael ei rhoi ar restr yn gwahardd ei hymadawiad. Dywed ei chyfreithwyr fod ymchwilwyr wedi defnyddio “gormes” i wneud iddi dynnu’r honiad o dreisio yn ôl, rhywbeth y mae awdurdodau Cyprus yn ei wadu’n gryf.