Mae dau o bobol wedi cael eu hanafu mewn gwrthdrawiad difrifol ger Dolgellau y bore yma (dydd Mawrth, Awst 27).

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r digwyddiad ar ffordd yr A470 yn ardal Bwlch Dinas Mawddwy rhwng Cross Foxes a Mallwyd am tua 8.30yb.

Roedd y gwrthdrawiad yn un rhwng cerbyd nwyddau trwm DAF a 4×4 marŵn.

Mae teithiwr yn y 4×4 wedi cael ei gludo i’r ysbyty yn Stoke gydag anafiadau difrifol, tra bo gyrrwr yr un cerbyd wedi cael ei gludo i Ysbyty Gwynedd am driniaeth.

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, fe ddylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â nhw ar unwaith.