Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth ar ôl i feiciwr modur gael ei anafu’n ddifrifol mewn gwrthdrawiad yn Ynys Môn brynhawn ddoe (dydd Llun, Awst 26).

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r digwyddiad ar ffordd yr A55 rhwng Llanfairpwll a Gaerwen am oddeutu 2.30yp.

Bu dwy ochr y ffordd ynghau am rai oriau ac fe gafodd y beiciwr modur ei gludo i’r ysbyty hofrennydd.

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, maen nhw’n awyddus i gael gwybodaeth ynglŷn â’r modd yr oedd dau feiciwr modur yn gyrru cyn y gwrthdrawiad.

Maen nhw’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar unwaith.