Mae’r cynhyrchydd teledu a ffilm, Harvey Weinstein, wedi pledio’n ddieuog i gyhuddiad newydd sy’n cynnwys ymosodiad rhywiol arall – datblygiad sydd wedi gorfodi’r barnwr i ohirio’r achos tan ddechrau flwyddyn nesaf.
Roedd y newid yma fod i weld actores yn rhoi tystiolaeth yn erbyn Harvey Weinstein mewn gwrandawiad ar dreisio ac ymosodiad rhywiol oedd fod i ddechrau ar Fedi 9.
Yn flaenorol, plediodd Harvey Weinstein yn ddieuog i gyhuddiadau ei fod wedi treisio menyw yn 2013 a pherfformio gweithred ryw orfodol ar fenyw wahanol yn 2006.
Mae’r achos yn parhau i fod ynglŷn â’r ddwy ddynes hynny, ond dywedodd erlynwyr fod angen y ditiad newydd i ganiatáu i drydedd fenyw, Annabella Sciorra, roi tystiolaeth.
Dywed Annabella Sciorra, sy’n fwyaf adnabyddus am ei gwaith ar The Sopranos, fod Harvey Weinstein wedi ei threisio y tu mewn i’w fflat yn Manhattan ar ôl iddi ymddangos mewn ffilm yn ei stiwdio ffilm ym 1993.
Fe gytunodd y barnwr James Burke gyda chyfreithwyr Harvey Weinstein fod angen i’r gwrandawiad gael ei ohirio er mwyn iddynt edrych mewn i’r cyhuddiad.
Mae’r cynhyrchydd, 67, sydd yn rhydd ar hyn o bryd ar fechnïaeth werth miliwn o ddoleri, wedi gwadu pob un cyhuddiad.