Mae sarjant yn Heddlu’r West Midlands wedi cael ei gyhuddo o gam-drin plant a’u paratoi ar gyfer eu cam-drin yn rhywiol.
Fe gafodd Stephen Shaw, 46, ei arestio yn ei gartref ddoe (dydd Iau, Awst 22) ac mae wedi’i gyhudd o geisio annog merch dan 13 oed i gymryd rhan mewn gweithred rywiol yn Awst eleni.
Mae hefyd wedi’i gyhuddo o geisio cyfathrebu’n rhywiol gyda phlentyn rhwng Awst 18 a 22, 2019.
Mae’r heddwas, sydd wedi’i leoli yn Coventry, yn cael ei gadw yn y ddalfa, ac mae disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys Ynadon Birmingham heddiw (dydd Gwener, Awst 23).
Mae’r achos wedi’i gyfeirio – fel sy’n rhaid gwneud – i sylw Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu gan lu’r West Midlands.