Mae dynes a gafodd ei harestio ar amheuaeth o amddifadu bachgen 10 oed a gafwyd yn farw mewn carafan, wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu.
Fe gafodd yr heddlu a pharafeddygon eu galw i gyfeiriad yn ardal Acocks Green, Birmingham, am 7.25yb ddoe (dydd Iau, Awst 22) yn dilyn adroddiadau fod bachgen yn anymwybodol.
Er bod Gwasanaeth Ambiwlans y West Midlands wedi rhoi triniaeth trawma iddo, a’i gludo wedyn i Ysbyty’r Heartlands yn Birmingham, fe fu’r bachgan farw am 8.20yb.
Fe gafodd gwraig 44 oed ei harestio.
Mae ditectuifs yn trin marwolaeth y bachgen fel un heb eglurhad, ac mae disgwyl i brawf post mortem ddigwydd heddiw,