Fe fydd dyn 29 oed yn ymddangos yn y llys heddiw (dydd Llun, Awst 12) ar gyhuddiad o geisio llofruddio plismon yn Birmingham.
Mae Mubashar Hussain, o Hall Green yn y ddinas, wedi’i gyhuddo o ymosod ar swyddog draffig cyn dwyn ei gar a’i daro gyda’r car.
Fe fydd Mubashar Hussain yn mynd gerbron Llys Ynadon Birmingham, ble mae hefyd yn wynebu cyhuddiadau o achosi niwed difrifol drwy yrru’n beryglus, cyhuddiad ar wahân o yrru’n beryglus, niweidio swyddog arall, pedwar cyhuddiad o ymosod ar swyddogion eraill, gyrru tra wedi’i wahardd, troseddau gyrru a dwyn dau gar.
Roedd yr heddwas wedi ceisio stopio car Range Rover roedd yn amau oedd wedi’i ddwyn yn Heol Moorcroft yn Moseley, tua 4.45yp bnawn dydd Sadwrn (Awst 10).
Honnir ei fod wedi dioddef “ymosodiad treisgar a’i ddyrnu i’r llawr” cyn i’r car yrru drosto.
Cafodd y plismon ei gludo i’r ysbyty mewn cyflwr difrifol ond mae’n debyg nad yw ei anafiadau bellach yn rhai sy’n bygwth ei fywyd, meddai Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr.
Mae ail ddyn 24 oed, Ahsan Ghafoor, o Sparkhill, wedi’i gyhuddo o ddau gyhuddiad o ddau gar yn ogystal â gyrru’n beryglus a throseddau moduro eraill. Fe fydd e hefyd yn ymddangos yn y llys ddydd Llun.