Mae’r Prif Weinidog Boris Johnson wedi cyhoeddi £85m ychwanegol ar gyfer Gwasanaeth Erlyn y Goron dros y ddwy flynedd nesaf.

Mae Boris Johnson hefyd wedi dweud y dylai troseddwyr rhyw a throseddwyr treisgar dreulio mwy o amser dan glo ar ôl iddo orchymyn adolygiad brys o’r polisi dedfrydu.

Dywedodd y Prif Weinidog y dylai troseddwyr peryglus gael eu tynnu oddi ar y strydoedd ac y dylen nhw wynebu dedfrydau llymach.

Daw’r camau diweddaraf yn dilyn cyfres o gyhoeddiadau dros y penwythnos pan ddywedodd Boris Johnson ei fod am fynd i’r afael a chyfraith a threfn.

Mae’r cyhoeddiadau’n cynnwys rhaglen £2.5bn i greu 10,000 o lefydd ychwanegol mewn carchardai ac ymestyn pwerau stopio ac archwilio’r heddlu yng Nghymru a Lloegr.

Mae ’na ddarogan bod Boris Johnson yn paratoi ar gyfer etholiad cyffredinol cynnar wrth i’r rhwygiadau yn y Senedd dros Brexit barhau.