Mae tri dyn wedi cael eu harestio yn dilyn ymosodiad ar ddyn arall yn Llanelli.
Fe ddigwyddodd ger goleuadau traffig yn y dref am oddeutu 8 o’r gloch neithiwr (nos Sadwrn, Awst 10).
Fe ddaeth y digwyddiad â’r traffig i stop, ac mae dyn 53 oed mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am dystion i’r digwyddiad, ac yn apelio am ddeunydd dashcam.