Mae’r heddlu yn Norwy yn trin achos o saethu mewn mosg yn Oslo fel ymosodiad brawychol.
Mae un person yn y ddalfa yn dilyn y digwyddiad yn ardal Baerum ddoe (dydd Sadwrn, Awst 10), ond dydy’r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall.
Mae’r unigolyn, sy’n cael ei ddisgrifio fel dyn yn ei 20au, hefyd wedi’i amau o lofruddio rhywun arall mewn digwyddiad ar wahân.
Daeth yr heddlu o hyd i’w chwaer 17 oed yn farw yn ei chartref.
Mae lle i gredu bod ganddo fe ddaliadau asgell dde a’i fod yn wrth-fewnfudwyr.